Dyma gyfrol gyfansawdd sy'n trafod cyfraniad Thomas Charles o'r Bala (1755-1814) i fywyd Cymru ar achlysur daucanmlwyddiant ei farw. Yn ffrwyth yr ymchwil ddiweddaraf gan ddeuddeg arbenigwr yn y maes, mae'n rhychwantu'r holl feysydd bu Charles yn ymwneud â nhw: addysg, crefydd, llythrennedd, ysgolheictod, geiriaduraeth a diwylliant. Sonnir hefyd am waddol artistig Thomas Charles, y cysylltiad a fu rhyngddo â'r emynyddes Ann Griffiths ac â Mari Jones a gerddodd i'r Bala i gyrchu Beibl ganddo, ei berthynas â chyfoeswyr fel Thomas Jones o Ddinbych, a'i le yn natblygiadau gwleidyddol ei gyfnod. Un o benseiri'r Gymru fodern oedd Thomas Charles ac ef, yn ôl Derec Llwyd Morgan, oedd 'Tad i foneddigeiddrwydd y werin Gristionogol Gymraeg'. Dyma gyfrol a fydd wrth fodd calon haneswyr diwylliant a beirniaid llên, a'r gwaith manylaf ar Thomas Charles i'w gyhoeddi ers canrif a mwy.
This edited volume discusses the contribution of Thomas Charles of Bala (1755-1814) to the life of Wales on the occasion of the bicentenary of his death. Comprising the latest research by twelve experts in their fields, it covers his work in education, religion, literacy, scholarship, lexicography and culture. Thomas Charles was one of the architects of modern Wales and this book, the most detailed work on the subject to be published for over a century, will be of great interest to cultural historians and literary critics alike.